Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 13 Ionawr 2022
Amser:
09.15 -
14.59
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12571
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Buffy Williams AS Carolyn Thomas AS (yn lle Buffy Williams AS) Sioned Williams AS |
Tystion: |
Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Zenny Saunders, Llywodraeth Cymru David Morris, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Sian Thomas (Ymchwilydd) Phil Boshier (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.
1.3 Croesawodd y Cadeirydd Sioned Williams AS i'r Pwyllgor, gan gymryd lle Siân Gwenllian AS. Diolchodd y Cadeirydd i Siân am ei chyfraniad amhrisiadwy i’r Pwyllgor ers dechrau’r Senedd hon, yn ogystal â’i gwaith ar y Pwyllgor a’i rhagflaenodd.
1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS o eitem 5 ymlaen, a dirprwyodd Carolyn Thomas AS.
1.5 O dan Reol
Sefydlog 17.24A, datganodd Sioned Williams AS fod ei
gŵr yn cael
ei gyflogi gan Brifysgol Abertawe a’i fod yn Aelod
o’r Undeb Prifysgolion a Cholegau ac yn gymrawd o'r
Gymdeithas Ddysgedig.
2 Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 11
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar y canlynol:
- Gwybodaeth gymharol am gyfansoddiad a’r gwahanol fathau o aelodaeth Bwrdd mewn sefydliadau tebyg i'r Comisiwn;
- Rhagor o wybodaeth am y safbwynt diweddaraf ar y pŵer i ddiddymu Corfforaethau Addysg Uwch;
- Rhagor o wybodaeth am y materion sy'n codi o'r ddeiseb ar y fwrsariaeth STEMM ôl-raddedig;
• Rhagor o wybodaeth am sut y gall y Bil gefnogi rhyddid academaidd i academyddion unigol, yn hytrach na'r amddiffyniadau ehangach yn y Bil ar gyfer rhyddid academaidd sefydliadol;
• Rhagor o wybodaeth am sut y bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y Comisiwn a chyrff cysylltiedig eraill yn cydweithio mewn perthynas â'u rolau o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg; ac
• A roddwyd
cydsyniad ar gyfer adran 128.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 4, eitem 7, eitem 8, eitem 9 ac eitem 10 ar agenda’r cyfarfod.
3.1 Derbyniwyd y
cynnig.
4 Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - trafod y dystiolaeth a’r materion allweddol
4.1 Trafododd y
Pwyllgor y materion allweddol. Bydd adroddiad drafft yn cael ei
drafod yn y cyfarfod nesaf ar 10 Chwefror.
5 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022 - 23 - sesiwn dystiolaeth 1
5.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.
5.2 Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu nodyn gyda data yn nodi gwariant penodol ar blant a phobl ifanc ar draws ei phortffolio (e.e. ar wasanaethau pediatrig a gwasanaethau iechyd meddwl y glasoed) i’r graddau y cesglir y wybodaeth honno gan y GIG/Llywodraeth neu mae’r wybodaeth ar gael iddynt.
5.3 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i roi rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor am yr Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant sy'n bwydo i mewn i benderfyniadau polisi a adlewyrchir yn y Gyllideb Ddrafft.
6 Papurau i’w nodi
6.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
7 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 - trafod y dystiolaeth
7.1 Bu'r
Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn
flaenorol.
8 Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - ystyried cylch gorchwyl drafft yr ymchwiliad
8.1 Yn amodol ar
wneud mân newidiadau, cytunodd y Pwyllgor ar gylch gorchwyl
yr ymchwiliad. Caiff papur dull gweithredu ei drafod yn y cyfarfod
yr wythnos nesaf.
9 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau
9.1 Trafododd y
Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, a chytunodd i
ysgrifennu ar y cyd â'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth ac
i ofyn am wybodaeth gan randdeiliaid penodol.
10 Ystyried y dull o ran hyfforddiant ar Hawliau Plant.
10.1 Cytunodd y Pwyllgor i gymryd rhan yn yr hyfforddiant Hawliau Plant ar 10 Chwefror.